Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 5 Hydref 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 11:53 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones (Cadeirydd) Peter Black Janet Finch-Saunders Mike Hedges Mark Isherwood Bethan Jenkins Gwyn R Price Ken Skates Rhodri Glyn Thomas Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Naomi Alleyne, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Ian Arundale, Prif Gwnstabl, Heddlu Dyfed Powys Gary Bohun, Cadeirydd, Ffederasiwn Heddlu De Cymru Gwylan Brinkworth, Heddlu De Cymru Helena Hunt, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Jamie Marden, Undeb y GMB Cllr Russell Roberts, Cadeirydd, Awdurdodau Heddlu Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad ac Ymddiheuriadau
1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2. Penderfyniad i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried y rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru
2.1 Nododd yr Aelodau fod y Pwyllgor wedi penderfynu, mewn sesiwn breifat yn ei gyfarfod diwethaf, sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ystyried y rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru. Bydd y grŵp yn cynnal ei gyfarfod cyntaf ar 13 Hydref.
3. Ymchwiliad i ddiogelwch cymunedol yng Nghymru
3.1Croesawodd y Cadeirydd y tystion a ganlyn: Ian Arundale QPM, - Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru (ACPO); y Cynghorydd Russell Roberts – Awdurdodau Heddlu Cymru; Gary Bohun – Ffederasiwn yr Heddlu; Naomi Alleyne – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Helena Hunt – Swyddog Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent; Jamie Marden – Undeb y GMB; a Gwylan Brinkworth – Heddlu De Cymru
3.2 Cytunodd ACPO i ddarparu nodyn ar yr anghysonderau cyllidebu ledled Cymru.
3.3 Cytunodd CLlLC i ddarparu nodyn ar y dyletswydd cyffredinol posibl ar Gomisiynwyr yr Heddlu a Chomisiynwyr Troseddau neu’r canllawiau arnynt.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Cytunwyd ar y cynnig.
5. Cytuno ar ymchwiliad y Pwyllgor i'r dyfodol
5.1 Cytunodd y Pwyllgor y byddai ei ymghynghoriad nesaf yn archwilio darpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor ar Gylch Gorchwyl yr ymgynghoriad.
6. Gwybodaeth am y gyllideb
6.1 Nododd y Pwyllgor yr amserlen ar gyfer ystyried cyllideb ddrafft y Llywodraeth.
7. Papurau i'w nodi
7.1 Nodwyd y papur.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.